Mandriva Linux

Mae cynnwys y CD-ROM o dan Hawlfraint (H) 2003-2005 Mandriva S.A. ac eraill. Gweler y rhybuddion hawlfraint unigol ym mhob pecyn ffynhonnell am delerau dosbarthu. Mae'r telerau dosbarthu sydd wedi eu hawlfreintio gan Mandriva eu nodi yn ffeil COPYING.

Mae Mandriva Linux a'i logo yn rhan o hawlfraint Mandriva S.A.


  1. Trefn y Cyfeiriadur
  2. Gosod
  3. Ffynonellau
  4. Cefnogaeth
  5. Cysylltiadau


1. Trefn y Cyfeiriadur

Mae'r cyfeiriadur wedi ei drefnu fel hyn:

|--> media/  
|   |--> main/ pecynnau deuaidd
|   |--> contrib/ pecynnau contrib deuaidd
|   `--> media_info/ data meta pecynnau
|--> install/  
|   |--> extra/ delweddau hysbysebu gosod
|   |--> images/ delweddau cychwyn a'r cnewyllyn
|   |--> stage2/ delweddau ramdisk y gosod
|      `--> live/ ffeiliau'r rhaglen osod
|--> isolinux/ delweddau cychwyn isolinux
|--> doc/ ffeiliau cymorth gyda'r gosod mewn amrywiol ieithoedd
|--> dosutils/ gwasanaethau gosod ar gyfer DOS
|--> misc/ ffeiliau ffynhonnell; coed gosod
|--> VERSION rhif y fersiwn cyfredol
|--> COPYING gwybodaeth am hawlfraint
|--> INSTALL.txt cyfarwyddid gosod
`--> README.txt ffeil testun

Os ydych yn drychu i raniad neu gyfrol NFS bydd angen i chi gael popeth o dan "install/" am ffeiliau gosod a phopeth o dan "media/" am becynnau yn o gystal â delweddau isolinux o "isolinux/".

[brig y dudalen]


2. Gosod

Gweler y ffeil install.htm.

NODYN CYDWEDDIAD PWYSIG:

Mae Mandriva Linux wedi ei adeiladu gyda chyflymder optimeiddiad CPU dosbarth Pentium (Pentium(tm) a'u tebyg, AMD K6, Cyrix M2, PIII...) ac felly NI FYDD YN RHEDEG ar gyfrifiaduron hyn, megis yr i386 a'r i486.

[brig y dudalen]


3. Ffynonellau

Mae pob pecyn penodol ar gyfer Mandriva Linux yn dod gyda'i ffynonellau ar y CD ffynhonnell (PowerPack Edition).

Mae modd i chi lwytho i lawr yr holl becynnau ffynhonnell oddi ar ein gwasanaethwyr FTP.

Os nad oes gennych gysylltiad hwylus â'r we, mae modd i Mandriva anfon archif ffynhonnell atoch am bris bychan.

[brig y dudalen]


4. Cefnogaeth

I'r rhai sydd â mynediad i'r we, ewch i

Yn arbennig, mae modd cael cysylltiad gyda'n rhestrau e-bostio yn:

Os nad oes gennych fynediad hwylus i'r we mae dal modd i chi danysgrifio i'r brif restr e-bostio. Er mwyn tanysgrifio, anfonwch e-bost at: sympa@mandrivalinux.com gyda " subscribe newbie " yng nghorff y neges.

[brig y dudalen]


Os nad ydych wedi derbyn dogfennaeth gyda'r cynnyrch hwn, mae modd i chi archebu'r Mandriva Linux PowerPack Edition (nifer o CDiau Mandriva Linux + Llawlyfr Gosod a Defnyddio + cefnogaeth gosod!) gan ein siop ar-lein yn:

[brig y dudalen]


5. Cysylltiadau

Mae modd cysylltu â Mandriva drwy:

[brig y dudalen]